Llywodraeth i brynu Maes Awyr Caerdydd?

  • 18 Rhagfyr 2012

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried prynu Maes Awyr Caerdydd.

Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, maent "wedi dod i gytundeb diwydrwydd dyladwy" gyda TBI, perchnogion y maes awyr, sy'n golygu eu bod yn gorfod gwneud gwaith ymchwil i gefndir ariannol y cwmni.

Byddai'r pryniant yn ddibynnol ar gwblhau ystyriaethau ariannol, cyfreithiol a sicrhau gwerth am arian.

Cadarnhaodd y llywodraeth y bydden nhw'n parhau â'r pryniant petai nhw'n hapus â'r ystyriaethau hyn.

Byddai'r safle yn cael ei reoli ar sail fasnachol gan gwmni ar ran y llywodraeth.

'Heriau'

Dywed Plaid Crymu eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad a bod angen i'r maes awyr fod yn "ffenestr siop" ar gyfer Cymru.

Ond dywed y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn poeni y gallai'r fenter sugno arian cyhoeddus.

Galwodd y Ceidwadwyr am sicrwydd na fyddai'r Llywoddraeth am geisio bod yn gyfrfiol am reoli'r maes amwyr yn y dyfodol.

Wrth gyhoeddi'r cytundeb, dywedodd Mr Jones:

"Yn ystod y 12 mis a aeth heibio, rwyf wedi pwysleisio dro ar ôl tro pa mor bwysig yw cael maes awyr yng Nghaerdydd sy'n borth rhyngwladol, deinamig.

"Yn ystod y flwyddyn rydym wedi datblygu perthynas adeiladol a chadarnhaol iawn â TBI. Gyda'n gilydd, rydym wedi bod yn trafod sut i ddatblygu'r maes awyr yn y modd gorau a'i baratoi ar gyfer yr heriau sydd i ddod.

"Gallaf gyhoeddi heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno â TBI i symud ymlaen i brynu Maes Awyr Caerdydd.

"Byddai trefniant o'r fath yn ein galluogi ni i ddatblygu dull mwy cydlynol o gynllunio ein seilwaith cenedlaethol, ac i integreiddio'r maes awyr i'n strategaeth ehangach o ddatblygu economaidd."

Cadarnhaodd Mr Jones na fyddai'r maes awyr yn derbyn cymhorthdal ac y byddai'n rhaid i drethdalwyr weld elw o'r cytundeb.

Cafodd Maes Awyr Caerdydd ei breifateiddio yn 1995.

Yn ôl y Prif Weinidog, mae 'na enghreifftiau eraill o feysydd awyr dan berchnogaeth gyhoeddus, megis Dwyrain Canolbarth Lloegr a Manceinion.

Ond pwysleisiodd Mr Jones mai "cytundeb unigryw" oedd hwn, ac nad oedd yna gynlluniau tebyg i brynu rheilffyrdd Cymru, er enghraifft.

'Cadarnhaol ac adeiladol'

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr:

"Dros y misoedd diwetha', mae Maes Awyr Caerdydd wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol gyda Llywodraeth Cymru ar sut i wynebu sialensiau'r dyfodol. Yn ystod y trafodaethau hynny daeth i'r amlwg y byddai gwerthu'r safle yn un opsiwn posib.

"Er mwyn edrych ar yr opsiwn hwnnw ymhellach, mae proses wedi'i chyflwyno fydd yn caniatáu'r llywodraeth i gynnal archwiliad ariannol. Yn ddibynnol ar hynny, a ffactorau eraill, rydym ar ddeall y gallai Llywodraeth Cymru benderfynu o blaid y pryniant."

Mae'r cyhoeddiad ddydd Mawrth wedi denu ymateb cymysg gan y gwrthbleidiau.

'Sugno arian cyhoeddus'

Dywedodd , Byron Davies AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar drafnidiaeth:

"Mae'n anodd dychmygu maes awyr dan berchnogaeth gyhoeddus yn gweithredu yn llwyddiannus heb fod yna o leiaf un cwmni teithio rhyngwladol wedi ei leoli yno.

"Mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ddangos tystiolaeth o werth am arian a dangos y bydd gwladol yn adfer hyder yn yr unig faes awyr yng Nghymru.

"Mae angen perswâd ar Geidwadwyr Cymru fod y symiau yn gwneud synnwyr ariannol . "

Galwodd hefyd am sicrwydd na fyddai Llywoddraeth Cymru am geisio rheoli'r maes amwyr yn y dyfodol.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, alw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd fis Hydref.

Dywedodd heddiw fod angen datblygu'r maes awyr rhyngwladol "fel ei bod yn cael ei reoli yn iawn, a'i fod yn cynnig dewis eang o hediadau am brisiau fforddiadwy.

"Dylai hefyd fod yn "ffenestr siop.

"Fel mae e ar hyn o bryd dyw e ddim yn cynnig yr un o'r pethau hyn."

Ychwanegodd bod rhaid rhoi sylw i broblem newid hinsawdd, a'i fod yn gobeithio denu teithwyr o feysydd awyr eraill yn hytrach na gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n hedfan.

Mynegodd yr Aelod Cynulliad Eluned Parrott, o'r Democratiaid Rhyddfrydol, bryderon am ymarferoldeb a chost trosglwyddo perchnogaeth y safle.

Meddai: "Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi y bydd o reidrwydd yn mynd i'r afael â'r gostyngiad mewn teithwyr dros y pum mlynedd diwetha'.

"Dyw'r math o fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw amdano dros y flwyddyn ddiwetha' yn ddim mwy fforddiadwy i drethdalwyr ag y byddai i fusnesau preifat.

"Rwy'n teimlo y bydd y maes awyr yn troi'n bwll o arian, fydd yn sugno arian cyhoeddus ar adeg o arbedion economaidd ac yn methu â chynhyrchu elw amlwg."

Yn gynharach y mis yma, daeth i'r amlwg fod nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd yn anelu am ei lefel isa' ers 15 mlynedd.

Yn y flwyddyn hyd at Hydref eleni, dim ond miliwn o deithwyr a gafodd eu cofnodi - sy'n golygu y byddai'r nifer ar gyfer 2012 yn waeth nag ar unrhyw adeg ers 1997.

Ond mae arbenigwyr yn credu y bydd niferoedd yn cynyddu dros y cyfnod nesa'.