Llai o arian i rai campau fel nofio wrth i'r rhwyfwyr gael mwy

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Rebecca Adlington oedd un enillodd un o dair medal Prydain yn y Gemau Olympaidd mewn nofio

Mae rhai campau wedi cael llai o nawdd gan UK Sport, y corff rheoli chwaraeon ym Mhrydain.

Fe fydd y nawdd yn hybu'r campau wrth baratoi at Gemau Olympaidd Rio yn 2016.

Un o'r rhai sydd wedi colli allan yw nofio.

Maen nhw'n wynebu gostyngiad o 15% a hynny ar ôl canlyniadau siomedig yng Ngemau Llundain 2012.

Dim ond tair medal cipiodd nofwyr Prydain gyda UK Sport wedi targedu rhwng pump a saith.

Ond chafodd y Cymro David Davies - enillodd yr efydd yn y pwll yn 2004 ag arian yn 2008 yn y dŵr agored, ddim ei synnu gyda'r penderfyniad.

"Ma' lot o chwaraeon eraill wedi ennill mwy o fedalau gyda llai o arian.

"Ni bron yna, wedi methu ennill y medalau ond gobeithio gwneud iawn am hynny.

"Y nod yw ennill mwy o fedalau a bydd popeth yn iawn."

Bygythiad i ganolfan

Image copyright Getty Images
Image caption Un o'r Cymry ennillodd fedal aur yn y rhwyfo oedd Tom James o Wrecsam (trydydd o'r chwith)

Ond fe all y gostyngiad yn y nawdd gael effaith andwyol ar un o brif ganolfannau ymarfer y gamp sy'n Abertawe.

Yno y mae Georgia Davies, Jemma Lowe, Jazz Carlin ac Ellie Simmonds yn hyfforddi ar hyn o bryd.

Mae disgwyl penderfyniad ar hynny fis Mawrth.

Ond wrth i ddioddef mae mwy o nawdd ar gael i rwyfwyr Prydain ar ôl ennill 9 medal yn Llundain, sy'n dair yn fwy na'r targed.

Un sy'n hapus iawn ydi Zac Lee Green o Gaerdydd, sy'n aelod o dîm rhwyfo Prydain dan 23 oed.

"Ni 'di dod lan £5 miliwn i £32.6 miliwn, wedi codi lot.

"Mae'n dangos gan i ni ennill naw medal.

"Fe fydda i'n derbyn arian trwy UK Sport ac fe ddaw drwy lot o wahanol ffyrdd gwahanol."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.