Aelodau'r Cynulliad o blaid newid system fudd-dal treth cyngor

  • 19 Rhagfyr 2012
Arian
Mae tua 330,000 o gartrefi Cymru yn cael budd-dal treth cyngor

Llwyddodd Llywodraeth Cymru i ennill pleidlais i gymeradwyo newid system budd-daliadau treth y cyngor wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones gynnal trafodaethau gyda Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond mae'r fargen rhwng y tair plaid yn golygu y bydd y Cynulliad yn gorfod ail drafod y mater ymhen blwyddyn

Cafodd yr aelodau eu galw yn ôl i Fae Caerdydd yn ystod eu gwyliau i bleidleisio ar y rheoliadau am yr eildro.

Cafodd y Llywodraeth eu beirniadu yn hallt y tro cyntaf, am geisio gwthio rheolau mae pawb yn cydnabod sy'n rhai cymhleth, ychydig funudau cyn cael pleidlais yn gynharach yn y mis.

Cafodd yr ymdrech ei atal gan y gwrthbleidiau a gwynodd fod cannoedd o dudalennau o ddogfennau technegol wedi eu cyflwyno rhyw hanner awr cyn i'r bleidlais gael ei chynnal.

Mae Llywodraeth y DU wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y budd-dal i'r awdurdodau lleol yn Lloegr, a llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Maen nhw hefyd wedi cwtogi'r cyllid sydd ar gael o tua 10%.

'Anrheg Nadolig'

Hawliodd Peter Black ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, fod San Steffan wedi caniatáu i'r llywodraethau yn y gwledydd hynny i ddatblygu cynlluniau pwrpasol ac i ddefnyddio eu harian i leddfu rhyw gymaint ar effaith y toriad.

"Mae Cymru ar y llaw arall wedi dyfeisio cynllun cenedlaethol," meddai.

Roedd Rhodri Glyn Thomas yn gresynu fod y Blaid Lafur wedi ceisio cael cefnogaeth gan y Ceidwadwyr y tro cyntaf ac y byddai hynny wedi rhoi "anrheg Nadolig gwleidyddol gwerthfawr iddynt allu ymffrostio".

Y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sergeant, oedd yn ateb y ddadl ar ran y Llywodraeth.

Gwadodd y cyhuddiad wnaed gan Simon Thomas fod Llafur wedi bod yn ddichellgar.

Doedd y rheolau newydd ddim wedi cael eu dyfeisio ar fympwy meddai ac "mae angen i'r rheoliadau gael eu cymeradwyo er mwyn galluogi cynghorau i barhau i gynnig y budd-dal (sy'n ddibynnol ar incwm) yn y flwyddyn ariannol nesaf sy'n dechrau yn Ebrill 2013".

Cwta awr barhaodd y ddadl a chafodd y cynnig ei gymeradwyo yn ddiwrthwynebiad.