3,800 o filwyr i adael Afghanistan yn 2013

David Cameron on a visit to Camp Bastion in Helmand
Image caption Mr Cameron has said British troops will be reduced in an "orderly" fashion by 2014

Mae David Cameron wedi dweud y bydd 3,800 o filwyr o Brydain - bron hanner y llu presennol yn nhalaith Helmand - yn cael eu tynnu o Afghanistan yn ystod 2013.

Mae nifer y milwyr yno eisoes yn cael ei gwtogi o 9,500 i 9,000 cyn y Nadolig.

Mae'r nifer yn disgyn i tua 5,200 erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, medd Mr Cameron yn sesiwn holi'r Prif Weinidog ddydd Mercher.

Bydd gweithgareddau NATO yn y wlad yn dod i ben ar ddiwedd 2014, gyda chyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i fyddin Afghanistan.

Nid yw'r Bataliwn Brenhinol Cymreig yn Afghanistan ar hyn o bryd fel rhan o Operation Herrick, ond mae nifer o Gymry gyda chatrodau eraill yn y wlad.

'Heriau mawr'

Mewn datganiad a ddilynodd gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond, dywedodd: "Dros yr 11 mlynedd diwethaf rydym wedi bod yn cynorthwyo i geisio sicrhau na fydd gorffennol Afghanistan yn parhau yn anochel i'r dyfodol.

"Wrth i ni symud tuag at drosglwyddo llawn ar ddiwedd 2014, mae'n glir bod heriau mawr yn wynebu pobl Afghanistan yn y dyfodol.

"Mae ein hymgyrch ymladd yn tynnu at ei therfyn, ond mae ein hymrwymiad i'r bobl am y tymor hir."

Ychwanegodd bod y DU wedi ymrwymo i roi cyllid o £250 miliwn y flwyddyn i Afghanistan, ond os fydd hynny'n parhau "bydd angen i lywodraeth Afghanistan daclo llygredd, sy'n parhau yn amlwg iawn ac yn fygythiad i sefydlogrwydd tymor hir y wlad".

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Arlywydd Hamid Karzai ei fod wedi siarad gyda Mr Cameron dros y ffôn am y broses heddwch, ac am y trafodaethau rhwng Afghanistan, Pacistan a'r DU fydd yn digwydd fis nesaf.

Dywedodd Mr Cameron yn ystod ymweliad â'r wlad ym mis Gorffennaf y byddai milwyr Prydain yn gadael yno "yn drefnus a synhwyrol".

Ers 2001, mae 438 o bersonél Prydain wedi marw yn Afghanistan.