Abertawe i wynebu Chelsea yng Nghwpan Y Gynghrair

Fe fydd Abertawe yn wynebu Chelsea yn rownd gynderfynol Cwpan Y Gynghrair, Cwpan Capital One.

Fe ddaeth yr enwau allan o'r het ar ôl i dîm Rafael Benitez drechu Leeds o 5-1 yn Elland Road nos Fercher yn rownd yr wyth olaf.

Mi fydd Aston Villa yn wynebu Bradford yn y rownd gynderfynol arall.

Fe fydd y gemau cyntaf yn cael eu cynnal yn yr wythnos sy'n dechrau ar Ionawr 7 cyn yr ail gymal bythefnos yn ddiweddarach.

Dywedodd Benitez ei fod yn disgwyl gemau anodd yn erbyn Abertawe sy'n 10fed yn yr Uwchgynghrair.

Fe gafwyd gêm gyfartal 1-1 rhwng y ddau dîm ym mis Tachwedd.

"Mae Abertawe yn dîm da ac mae'n rhaid i ni wneud yn dda mewn unrhyw gêm gynderfynol cystadleuaeth.

"Mae pob cystadleuaeth yn bwysig i ni."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.