Cynnig gan bêl-droedwyr Brasil

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Dafydd Gwynn.

Mae Clwb Pêl-droed Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi denu cefnogwyr newydd o gornel annisgwyl iawn o'r byd - Brasil.

Yn wir mae chwaraewyr o Frasil bellach yn cynnig chwarae i'r clwb wedi iddyn nhw gael sylw ar un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd y wlad - 'Futbol Nun Mundo'.

Daeth y clwb i sylw'r rhaglen am fod ganddo'r enw hiraf yn y byd ar glwb pêl-droed, sef Clwb Pêl-droed Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch wrth gwrs.

Gyda chymaint o ddiddordeb yng ngwefan y clwb erbyn hyn, maen nhw'n cynnwys gwybodaeth yn yr iaith Portiwgëeg.

Dywedodd Steve Smith - chwaraewr sydd hefyd yn gyfrifol am y wefan - bod cefnogwyr wedi bod yn cysylltu o Frasil a Chile ymhlith gwledydd eraill.

"Dwi wedi clywed gan bobl o Frasil yn dweud eu bod nhw am ddod draw i chwarae i ni, ond maen nhw am i ni dalu am y tocyn awyren," meddai.

"Dydw i ddim yn credu bod hynny'n mynd i ddigwydd."

Gêm ddarbi

Dechreuodd y diddordeb yn dilyn adroddiad am y clwb mewn papur newydd ym Mrasil, ac fe gafodd y rhaglen deledu afael yn y stori wedyn.

Ym Mrasil y bydd cystadleuaeth Cwpan y Byd 2014 yn cael ei chynnal.

Bydd gêm nesaf Llanfairpwll yn Ail Adran Cyngres Cymru yn erbyn Gaerwen ddydd Sadwrn, ac mae disgwyl gêm ddarbi danllyd.

Ychwanegodd Mr Smith eu bod yn disgwyl criw camera o Frasil i ddod i ymweld â Llanfairpwll yn y flwyddyn newydd.

Mae'r newyddiadurwr Ricardo Acampora yn gweithio i wasanaeth Brasil i'r BBC, a dywedodd ei bod yn rhyfedd sut y mae clwb mor fach wedi gafael yn nychymyg ei gydwladwyr.

"Dydw i erioed wedi clywed am rywbeth fel hyn yn digwydd o'r blaen, a hynny, gyda phob parch, i glwb mor fach a di-nod," meddai.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.