Colli mwy o swyddi mewn ffatri

Real Crisps factory, Crumlin
Image caption Bellach ma 90 o bobl yn ffatri Real Crisps yng Nghrymlyn wedi colli'u gwaith

Bydd 10 yn fwy o weithwyr yn colli gwaith yn ffatri Real Crisps yng Nghrymlyn yn dilyn tân yno ym mis Medi, gan adael dim ond 30 yn gweithio yno.

Cyn y tân, roedd 120 yn gweithio ar y safle, ond cafodd y ffatri ei llosgi'n ulw bryd hynny.

Gorfodwyd perchnogion y cwmni, Tayto Group o Ogledd Iwerddon, i ddiswyddo 80 o staff ym mis Hydref.

Dyw'r cwmni ddim wedi penderfynu eto os fydd y ffatri'n cael ei hail-godi ai peidio.

'Agosach at adre'

Dywedodd pennaeth Tayto Group, Paul Allen, bod y deg fydd yn gadael wedi bod yn teithio i safleoedd eraill y cwmni yn y DU, ond "nad oedden nhw'n dymuno parhau i deithio fel hyn".

Ychwanegodd: "Arhosodd y bobl yma i'n cynorthwyo ar adeg brysuraf y flwyddyn, ond yn ddealladwy maen nhw am geisio chwilio am waith yn agosach at adre er mwyn bod yn agosach at eu teuluoedd.

"Rydym yn ddiolchgar iawn na chafodd neb eu hanafu yn y tân, ond mae'n ofnadwy i'r bobl sydd wedi colli eu gwaith yn enwedig ar drothwy'r Nadolig."

Dywedodd bod y broses o benderfynu ar ddyfodol y safle yn un "hir a chymhleth".

"Mae'r peiriannau sydd eu hangen arnom yn arbennig ac yn cymryd misoedd i'w hadeiladu, ond rydym wedi dechrau'r broses o deithio i weld cyflenwyr o amgylch y byd i weld beth sydd ar gael, a beth yw'r datblygiadau technolegol diweddaraf.

"Yn yr un modd mae angen adeilad sydd wedi'i gynllunio'n arbennig."

Mae dyn 30 oed o Abertyleri yn disgwyl i sefyll ei brawf ar gyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd mewn perthynas â'r tân yn y ffatri ym mis Medi.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.