Cynllun bandiau arddwrn yn Llandudno

Sefydlwyd y cynllun gydag arian gan y Ddeddf Elw Troseddau a nawdd gan fusnesau lleol Image copyright Heddlu'r Gogledd
Image caption Sefydlwyd y cynllun gydag arian gan y Ddeddf Elw Troseddau a nawdd gan fusnesau lleol

Mae busnesau yn nhref Llandudno wedi ymuno â'r heddlu mewn ymgyrch er mwyn sicrhau diogelwch plant.

Cynllun bandiau arddwrn yw 'Cynllun Plant Diogel Llandudno'.

Gall rhieni gael y bandiau arddwrn, sydd wedi'u rhifo'n arbennig, wrth iddynt siopa o unrhyw un o'r siopau neu'r busnesau sy'n arddangos yr arwydd diogelwch plant.

Bydd gan y staff diogelwch ym Mharc Llandudno hefyd fandiau a fydd yn cynnwys manylion cyswllt y rhieni ond na fyddant yn enwi'r plentyn.

Sefydlwyd y cynllun gydag arian gan y Ddeddf Elw Troseddau a nawdd gan Ganolfan Hamdden HB, Asda, diogelwch Akita ym Mharc Llandudno, y Pier a Chanolfan Fictoria.

'Tawelu meddyliau'

Penderfynodd Sarah Curry, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, gyflwyno'r cynllun bandiau arddwrn er mwyn gallu cynnwys y dref gyfan o'r Pier i'r parciau adwerthu

"Nid yw hyn yn rhywbeth o safbwynt yr heddlu yn unig, mae'n ymwneud â bod yn fam a sicrhau bod eich plant yn ddiogel pan fyddwch yn mynd allan i siopa", eglurodd.

Yn ôl Sue Nash, rheolwraig y Ganolfan Fictoria: "Mae plant yn dueddol o fynd ar goll ond os oes ganddynt fand ar eu harddwn bydd yn ein galluogi i ddod o hyd i'w rhieni yn llawer cyflymach, a bydd yn tawelu meddyliau'r rhieni."

Ychwanegodd Ifan Hughes, swyddog diogelwch cymunedol gyda Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'n ymwneud â chydweithio er mwyn sicrhau bod ein plant yn ddiogel.

"Ar adegau, mae'r plant sy'n mynd ar goll mor ifanc ac yn poeni cymaint fel na allant gyfleu pwy yw eu rhieni.

"Gall neb wneud unrhyw beth i helpu tan y bydd y plentyn yn gweld mam neu dad ond gyda rhif cyswllt ar yr arddwrn, bydd pethau'n llawer haws."

Yr wythnos hon roedd Sarah Rhys-Jones yn fwy na hapus i'w mab gael band: "Mae'n syniad gwych, mae'n gallu bod yn eithaf brawychus pan fydd plant yn mynd ar goll."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.