Teulu'n talu teyrnged i fam a nain 'brydferth' fu farw ar Ddydd Nadolig

Charmaine Macmuiris Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd Charmaine Macmuiris ei chanfod wedi ei lladd ar Ddydd Nadolig

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw'r fam 37 oed gafodd ei chanfod wedi marw mewn tŷ yn Sir Gaerfyrddin ar Ddydd Nadolig.

Roedd Charmaine Macmuiris yn byw ym Maes Yr Ysgol, Caerfyrddin.

Mae dyn 28 oed sy'n byw yn lleol wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae o'n dal i gael ei holi gan yr heddlu.

Roedd Ms Macmuiris yn fam i dri ac yn nain i un.

Mewn datganiad fe wnaeth ei theulu ddweud eu bod "wedi torri eu calonau".

"Rydym mewn sioc o golli ein merch brydferth, fydd ein bywydau fyth yr un peth eto," meddai'r teulu.

"Aed â Charmaine oddi wrth ei phlant....a'i theulu cyfan yn y modd mwya' creulon ar Ddydd Nadolig.

"Ddylai'r un teulu orfod wynebu'r fath drasiedi.

"Hoffem ddiolch i deulu, ffrindiau a chymdogion am eu cefnogaeth a charedigrwydd yn ystod y cyfnod anodd yma.

"Rydym eisiau preifatrwydd nawr i alaru am Charmaine."

Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ tua 10.50am bore Nadolig.

Mae'r heddlu yn apelio ar y cyhoedd oedd yn yr ardal i gysylltu â nhw.

Gwybodaeth

Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Maes Yr Ysgol rhwng 5pm nos Lun ac 11am ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod swyddogion arbennig yn cynnig cefnogaeth i deulu Ms Macmuiris.

"Mae'r gymuned yn parhau i gefnogi'r heddlu gyda'u hymchwiliad a hoffem ddiolch iddyn nhw am eu cymorth," meddai.

"Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu yn lleol ar 101."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.