Apêl am fachgen 16 oed sydd heb ei weld ers Rhagfyr 22

Waheed Ullah Amjri Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Does neb wedi gweld Waheed Ullah Amjri ers dydd Sadwrn

Mae'r heddlu yn bryderus am fachgen 16 oed sydd wedi mynd ar goll o gartref maeth dros y penwythnos.

Cafodd Waheed Ullah Amjri ei weld diwethaf yng Ngorsaf Reilffordd Y Rhyl am 1.05pm ddydd Sadwrn Rhagfyr 22.

Credir ei fod wedi mynd ar drên oedd yn mynd i Fanceinion.

Roedd disgwyl i'r trên gyrraedd Manceinion am 2.57pm y diwrnod hwnnw.

Newid trên

Ond dydi Waheed ddim wedi ei weld nac wedi cysylltu gyda'i ofalwyr maeth.

Mae'n bosib ei fod wedi newid trên yng Nghaer ac anelu am Lundain.

Cafodd Waheed, sydd o dras Afghan, ei ddisgrifio fel bod yn denau â gwallt cyrliog byr.

Cafodd ei weld diwethaf yn gwisgo cot llwyd, siwmper ddu, jîns glas ac esgidiau rhedeg brown.

Mae Waheed o dan yr argraff y bydd yn cael ei anfon o Brydain heb fod yn ymwybodol ei fod wedi cael caniatâd i aros yn y DU tan 2014.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth mae Heddlu'r Gogledd yn apelio arnyn nhw i gysylltu gyda nhw.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.