Heddlu yn canfod corff

Gwyn Morris Image copyright Ann hawker
Image caption Diflanodd Gwyn Morris, sy'n dioddef o dementia, o'i gartref ar Ragfyr 6

Mae'r heddlu sydd wedi bod yn chwilio am ddyn 88 oed o Sir Hertford wedi dod o hyd i gorff.

Roedd Gwyn Morris, gafodd ei fagu yn ardal Llanidloes, yn dioddef o ddementia, ac wedi bod ar goll o'i gartref ers Rhagfyr 6.

Fe gafodd y corff ei ddarganfod mewn dŵr yn Hoddesdon yn sir Hertford.

Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn swyddogol eto ond mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal yn ddiweddarach.

Llanidloes

Y gred yw mai corff Mr Morris sydd wedi ei ganfod.

Roedd teulu Mr Morris yn credu ei fod e'n ceisio cyrraedd Llanidloes ym Mhowys.

Cafodd Mr Morris ei fagu ar fferm yno, ac roedd ei frawd Ronald, 90 oed, yn byw yn y dref.

Roedd Mr Morris yn gyn athro Ysgol Rhuthun yn Sir Ddinbych.

Straeon perthnasol