Apêl am ddyn ar goll

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am ddyn sydd wedi bod ar goll o'i gartref yn ardal Gwaun Cae Gurwen.

Cafodd Andrew John Rees, 64 oed, ei weld y tro diwethaf ar ddydd Mercher Rhagfyr 19 yn ardal Ffordd Derwydd.

Mae o'n pum troedfedd deg modfedd o daldra, gyda gwallt brown i'w ysgwyddau.

Deellir bod ei goes chwith mewn plaster yn dilyn llawdriniaeth.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu gyda Taclo'r Tacle ar 0800 555111.