Ymosodiad Yr Archentwyr wedi synnu Margaret Thatcher

  • 28 Rhagfyr 2012
Margaret Thatcher ar Ynysoedd y Falkland
Fe wnaeth Mrs Thatcher ymweld â milwyr Prydain ar Ynysoedd y Falkland yn 1983

Mae dogfennau yn ymwneud â thrafodaethau o fewn y Cabinet yn 1982 yn cael gweld golau dydd am y tro cyntaf ers 30 o flynyddoedd.

Mae nifer fawr o'r dogfennau yn ymwneud â'r rhyfel i ail feddiannu Ynysoedd y Falkland wedi i luoedd Yr Ariannin eu meddiannu.

Mae cyhoeddi papurau'r Cabinet yn rhan o ddefod flynyddol.

Un ffaith drawiadol o'r rhai sy'n gweld golau dydd rwan yw nad oedd llywodraeth Margaret Thatcher wedi disgwyl i'r Archentwyr feddiannu'r ynysoedd, na chwaith i geisio gwrthsefyll y milwyr Prydeinig anfonwyd i'w disodli.

Llongau tanfor niwclear

Wedi'r ymgyrch, dyma ddywedodd y Prif Weinidog mewn tystiolaeth gerbron un o bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin: "Doeddwn i erioed wedi disgwyl i'r Archentwyr wneud y fath beth.

"Roedd yn weithred cwbl dwp ac yn dwpdra llwyr i hyd yn oed ystyried y fath gam."

Yn ôl un arbenigwr milwrol, yr Uwch Gapten Alan Davies, ychydig oedd gwleidyddion yn gwybod am yr ynysoedd ar y pryd.

"Mae'r Ynysoedd ym mhen draw'r byd ac felly yn annhebygol iawn fod y Prif Weinidog yn gwybod unrhyw beth amdanyn nhw," meddai.

Mae'r dogfennau yn datgelu fod Mrs Thatcher wedi ceisio darbwyllo llywodraeth Ffrainc i beidio gwerthu arfau i Beriw ac wedi anfon llongau tanfor i Dde'r Iwerydd a rheiny wedi eu harfogi gydag arfau niwclear.

Mae'n amlwg bod hynny yn fater gwleidyddol hynod sensitif gan mai dyna oedd un o'r pynciau cyntaf i'w drafod gan y Cabinet Rhyfel ym mis Ebrill 1982.

Cadarnhawyd bod llongau tanfor niwclear ar eu ffordd i Dde'r Iwerydd ond "ni ddylid dweud dim ar goedd ynglŷn â lleoliad arfau niwclear" ac "nid oes unrhyw bosibilrwydd yn y cyd-destun presennol i ddefnyddio arfau niwclear o unrhyw fath".

Mae yna awgrym mewn cofnod Cabinet fod gan gapteiniaid y llongau tanfor yr hawl i danio heb orfod cael caniatâd gan y Ganolfan Reoli yn Llundain.

Osgoi embaras

Dywed cofnod dyddiedig Ebrill 8 fod "gan y Prif Swyddog ar Long Danfor yr hawl i weithredu mewn unrhyw fater yn ymwneud â diogelwch ei long".

Mae papurau'r Cabinet yn cael eu cadw dan glo yn yr Archifdy Cenedlaethol yn Kew am 30 o flynyddoedd.

Yn ystod oes lle mae'r hawl i ryddid gwybodaeth yn bwysig, cred rhai arbenigwyr fod cadw dogfennau dan glo cyhyd yn fodd i osgoi embaras i wleidyddion.

"Cudd fy meiau rhag y werin" oedd cri ymbilgar yr emynydd ers llawer dydd.

Ond tybed drwy gadw dogfennau'r Cabinet dan glo am 30 mlynedd, fod gwleidyddion modern, ar gam neu beidio, yn rhoi eu hunain yn agored i'r un cyhuddiad?