Dyn yn cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ar Ddydd Nadolig

Charmaine Macmuiris Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd Charmaine Macmuiris ei chanfod ar Ddydd Nadolig

Mae dyn 28 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio mam 37 oed yng Nghaerfyrddin ar Ddydd Nadolig.

Bydd y dyn yn ymddangos gerbron Ynadon Llanelli ddydd Gwener.

Cafwyd hyd i gorff Charmaine Macmuiris mewn tŷ ym Maes Yr Ysgol.

Roedd Ms Macmuiris yn fam i dri ac yn nain i un.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ tua 10.50am Ddydd Nadolig.

Mae'r heddlu yn apelio ar y cyhoedd oedd yn yr ardal i gysylltu â nhw.

Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Maes Yr Ysgol rhwng 5pm nos Lun ac 11am ddydd Mawrth.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.