Rygbi: Gwahardd Rhys Webb am wythnos

Rhys Webb
Image caption Chafodd Webb ddim ei gosbi gan y dyfarnwr yn ystod y gêm

Mae mewnwr y Gweilch Rhys Webb wedi cael ei wahardd rhag chwarae am wythnos wedi iddo gael ei gyhuddo o sathru ar chwaraewr arall yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn y Scarlets ar Ŵyl San Steffan.

Ni fydd Webb yn chwarae yn erbyn y Dreigiau ddydd Llun ond fe fydd yn gallu chwarae o Ionawr 3 ymlaen.

Penderfynodd panel disgyblu wahardd Webb, sydd wedi chwarae tair gwaith dros Gymru, yn dilyn gwrandawiad yn Nulyn ddydd Sul.

Chafodd Webb ddim ei gosbi gan y dyfarnwr yn ystod y gêm ar ôl i Webb geisio rhyddhau'r bêl o ryc.

Curodd y Gweilch y Scarlets o 32 pwynt i 3.

Cafodd dau o chwaraewyr y Scarlets - Rob McCusker a Gareth Owen - eu hanfon o'r cae yn ystod munudau olaf yr ornest gyda thri o dîm yr ymwelwyr hefyd yn cael eu hanfon i'r gell gosb yn ystod y gêm.

Bydd gwrandawiad disgyblu ar gyfer y ddau chwaraewr yn cael ei gynnal ddydd Mercher, Ionawr 2.

Mae hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby, wedi dweud y bydd yn gwylio fideo o'r digwyddiadau cyn penderfynu a fydd yn apelio yn erbyn y dyfarniad ai peidio.

Straeon perthnasol