Pryder am lifogydd gyda disgwyl mwy o law trwm ddydd Sul

Fe wnaeth Afon Tywi orlifo ei glannau ddydd Sadwrn yng Nghaerfyrddin
Fe wnaeth Afon Tywi orlifo ei glannau ddydd Sadwrn yng Nghaerfyrddin

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gofyn i bobl fod ar eu gwyliadwraeth oherwydd posibilrwydd o lifogydd wrth i fwy o law ddisgyn mewn rhannau helaeth o Gymru.

Mae'r Asiantaeth bellach wedi cyhoeddi chwe rhybudd llifogydd ac mae 'na ddegau o rybuddion bod llifogydd yn bosibl yng Nghymru.

Yn ôl arbenigwyr mae disgwyl i law trwm effeithio ar Gymru tua amser cinio ddydd Sul gyda chymaint â 80 mm o law ar dir uchel yn Eryri.

Daw hyn ar ôl glaw trwm nos Wener a bore Sadwrn.

O ganlyniad i hwnnw cafodd y gwasanaeth tân eu galw i achosion o lifogydd yn Aberdaugleddau, Aberporth ac Ynys Bŷr oddi ar arfordir Dinbych-y-Pysgod ddydd Sadwrn.

Mae'r rhybuddion llifogydd ar Afonydd Tywi yn Abergwili; Cothi ym Mhontargothi a Phontynyswen; Dyffryn Dyfi, dros Bont Dyfi a'r A487; Dyffryn Conwy; Afon Ritec yn Ninbych-y-Pysgod a'r Ddyfrdwy Isa' o Langollen i Gaer.

Hefyd cafodd nifer o ffyrdd eu heffeithio yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys.

Bu'r A40 ar gau mewn sawl lle, yn Aberhonddu, Pontsenni, Llandeilo a Chas-blaidd ddydd Sadwrn.

Defnyddio cwch

Bu diffoddwyr yn clirio dŵr o dafarn y Priory yn Aberdaugleddau a bu swyddogion yn trafod pa gamau i'w cymryd oherwydd pryder o lifogydd o bwll mawr o ddŵr.

Fe allai'r dŵr yno orlifo a lledu i ardal ehangach gan nad yw'r dŵr yn clirio.

Cafodd chwech o ddiffoddwyr tân o Ddinbych-y-Pysgod eu hanfon i Ynys Bŷr gyda chwch i helpu criw o wirfoddolwyr i daclo llifogydd yno.

Bu'n rhaid iddyn nhw ddychwelyd gyda hofrennydd am fod y môr rhy arw.

Yn ôl Owain Wyn Evans, sy'n cyflwyno'r tywydd i BBC Cymru, y pryder yw bod y tir yn dal yn wlyb iawn.

"Dydi lefel yr afonydd ddim wedi cael amser i ddychwelyd i'r lefel arferol.

"Mae gan Y Swyddfa Dywydd rybudd melyn ar draws y rhan fwyaf o Gymru heddiw, rhybudd am law trwm."