Unig drigolion Ynys Sgogwm yw cwpl sy'n symud o Ynys Enlli

  • 2 Ionawr 2013
Richard Brown a Giselle Eagle
Richard Brown a Giselle Eagle yw unig drigolion llawn amser Ynys Sgogwm

Ers dechrau'r flwyddyn mae gan Ynys Sgogwm, oddi ar arfordir Sir Benfro, drigolion llawn amser.

Mae Richard Brown a Giselle Eagle, yn arbenigwyr ar adar ac yn wardeiniaid yr ynys sydd â chysylltiadau pŵer a chyfathrebu achlysurol.

Mae'r ddau wedi byw ar Ynys Enlli ac wedi cael profiad o fyw ar wahanol ynysoedd.

"Mae'r pŵer i gyd yn dod o'r haul, sy'n beth achlysurol iawn yng Nghymru," eglurodd Mr Brown.

"Yn gyffredinol dim ond digon o drydan i gynnal y ffôn am ddwy neu dair awr fydd ganddo ni neu i edrych ar ein he-bost rhyw unwaith y dydd.

"Fyddwn ni ddim y bobl hawsa' i gael gafael arnyn nhw, mae hynny'n wir."

Miloedd o adar

Dywedodd na fyddai'r ddau yn dymuno byw unrhyw ffordd arall.

"Rydym yn angerddol am fywyd gwyllt, yn enwedig adar y môr ac ecoleg ynysoedd," ychwanegodd.

"Allwn ni ddim disgwyl i gael ein hamgylchynu gan filoedd o wahanol adar a'r cyfan gydag Ynys Sgogwm yn gefndir perffaith."

Fe wnaeth y ddau gyfarfod pan aeth Ms Eagle, yn rhinwedd ei gwaith gyda'r RSPB i Ynys Enlli, lle'r oedd Mr Brown yn warden.

"Roeddwn i wedi gwirioni ar fywyd yr ynys ac ar Richard," meddai,

"Fe symudais i'r ynys ym mis Hydref 2010, a dwi ddim wedi difaru."

Gwarchodfa

Credir mai'r Llychlynwyr oedd y rhai cyntaf i ymgartrefu ar Ynys Sgogwm yn y 10fed neu'r 11eg Ganrif.

Mae'r enw Norwyaidd yn golygu ynys goediog ac mae'n rhannu'r un tarddiad a chyfieithiad enw prifddinas Sweden, Stockholm.

Ar un cyfnod bu'r ynys yn eiddo i Syr John Perrott, mab anghyfreithlon Harri'r VIII.

Ac yn 1646 fe werthodd ei ddisgynyddion yr ynys am £300 i'r bargyfreithiwr William Philipps, gyda'i deulu o yn ei werthu yn 2005.

Erbyn hyn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru sy'n berchen ar yr ynys ar ôl codi £650,000 i'w brynu.

Mae bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac un o dasgau cyntaf y wardeiniaid newydd fydd parhau gyda'r gwaith adnewyddu ar oleudy sy'n dyddio'n ôl i 1776.

Credir mai dyma un o'r goleudai cynhara' sy'n dal yn bodoli yng Nghymru.

Dywedodd Mr Brown mai ei fwriad yw cael pobl i aros ar yr ynys cyn gynted â phosib.

"Mae'r ymddiriedolaeth wedi gwneud gwaith gwych eisoes o adnewyddu'r adeiladau sydd ar yr ynys ond mae 'na lot o waith i'w wneud eto," ychwanegodd.