Athletwyr Llundain 2012 oedd rhedwyr cudd Ras Nos Galan

Dai Greene
Image caption Dai Greenen oedd un o'r ddau redwr cudd nos Lun

Athletwr Olympaidd a Pharalympaidd oedd y rhedwyr gwadd yn ras flynyddol Nos Galan eleni.

Roedd miloedd yn cefnogi'r ras sy'n cael ei chynnal yng nghanol Aberpennar yn flynyddol er cof am y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân.

Dai Greene a Samantha Bowen oedd y rhedwyr cudd eleni a'u henwau'n gyfrinach tan y ras ei hun.

Greene oedd capten tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain eleni.

Anafiadau difrifol

Yn wreiddiol o Felinfoel ger Llanelli ef yw pencampwr Ewrop a'r byd yn y ras 400m dros y clwydi.

Gorffennodd yn bedwerydd yn y ras yn y Gemau Olympaidd eleni 0.13 eiliad tu ôl i'r trydydd.

Image caption Cafodd Samantha Bowen ei hanafu'n ddifrifol yn Irac

Un o Aberpennar yw Bowen a ymunodd gyda'r fyddin a gwasanaethu yn Irac.

Ar ôl cael ei hanfu'n ddrwg yno aeth ymlaen i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain eleni.

Roedd hi'n aelod o dîm pêl-foli eistedd Prydain.

Dywedodd y trefnwyr mai hwn oedd y digwyddiad mwyaf gyda'r holl rasys wedi eu llenwi ymhell cyn y diwrnod ei hun.

Am y tro cyntaf ers cychwyn y ras 46 blynedd yn ôl doedd dim modd cofrestru ar y diwrnod ei hun.

Roedd 'na 800 o enwau ar gyfer y ras hwyr 5 cilomedr i oedolion a 200 yn y ras elit.

Roedd 'na 150 o enwau hefyd ar gyfer pob ras oedran plant.

74 oed

Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi denu rhedwyr o sawl gwlad a bod rhai o Washington DC a San Diego eleni.

Y rhedwr hynaf yn ôl y trefnwyr eleni oedd un sy'n 74 oed.

Cychwynnodd yr hwyl am 4pm gyda rasys y plant cyn y ras elit.

Cafwyd arddangosfa tân gwyllt arbennig hefyd.

"Mae hwn bob blwyddyn yn ddigwyddiad allweddol i Aberpennar ac mae 'na filoedd yn dod i gefnogi'r rhedwyr," meddai Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan a Dirprwy Faer Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Andrew Morgan, un o aelodau'r pwyllgor a chynghorydd lleol,: "Mae'n ddigwyddiad arbennig iawn ac mae'n braf ei weld yn datblygu o flwyddyn i flwyddyn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.