Mwy o nofwyr nag erioed yn Saundersfoot

  • 1 Ionawr 2013
Nofwyr yn y môr yn Saundersfoot ar Ionawr 1 2013
Nofwyr yn y môr yn Saundersfoot ar Ionawr 1 2013

Fe wnaeth 1724 o bobl - fwy nag erioed - ddathlu'r flwyddyn newydd yn Sir Benfro drwy fynd i nofio yn y môr mewn gwisg ffansi.

Fe wnaethant fentro i'r môr yn Saundersfoot â'r bwriad o gasglu arian at achosion da.

Hwn oedd y 29ain tro i'r digwyddiad gael ei gynnal yn y dref.

Dywed y trefnwyr bod miloedd o bobl wedi gwylio'r digwyddiad a ddechreuodd am 12:30pm ddydd Mawrth.

Fe godwyd mwy na £40,000 ar gyfer elusennau ac achosion da y llynedd, ac mae mwy na £400,000 wedi ei godi ers i'r digwyddiad cael ei gynnal am y tro cyntaf ym 1985.