Cyhoeddi enw dyn fu farw yn Abertawe

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn oedd yn gorwedd ar heol yn Abertawe nos Sul.

Bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau yn Ysbyty Treforys.

Roedd Gintaras Zelanius yn byw yn y ddinas ond o Lithuania'n wreiddiol.

Mae menyw 68 oed gafodd ei gweld yn gyrru car Audi arian yn yr ardal wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Tua 5.35am ddydd Sul cafwyd hyd iddo ar lôn ogleddol yr A4118, Stryd Dyfaty, yn y ddinas.

Mae'r heddlu am siarad ag unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr heol rhwng 5am a 5.35am ddydd Sul neu a welodd y cerddwr neu'r car Audi cyn hynny.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai ffonio'r Uned Plismona Ffyrdd ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.