Dreigiau 3-14 Gweilch

Andrew Bishop yn ceisio osgoi Toby Faletau Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Andrew Bishop yn ceisio osgoi Toby Faletau

Sicrhaodd y Gweilch eu buddugoliaeth gyntaf ers 2007 ar Rodney Parade, gan guro'r tim cartref 14-3.

Daeth cais cynta'r gêm ar ôl dim ond tair munud gyda'r asgellwr Eli Walker yn croesi'r llinell.

Roedd gan faswr y Gweilch, Dan Biggar, ran amlwg yn yr ail gais ar ôl yr egwyl. Tarodd y bêl i'r llawr wrth i Lewis Robling ceisio cicio o flaen ei byst ei hun.

Ashley Beck oedd y cynta i gyrraedd y bêl, gan sgorio ail gais y Gweilch yn hwyr yn y gêm.

Daeth pwyntiau'r tîm cartref diolch i esgid Tom Prydie.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Gweilch yn codi o chweched i'r pumed safle yn y Pro12.

Dreigiau: Hallam Amos; Will Harries, Pat Leach, Andy Tuilagi, Tom Prydie; Lewis Robling, Jonathan Evans; Phil Price, Sam Parry, Dan Way, Andrew Coombs, Rob Sidoli, Lewis Evans (capt), Toby Faletau, Nic Cudd.

Eilyddion: Hugh Gustafson, Owen Evans, Nathan Buck, Adam Jones, Tom Brown, Wayne Evans, Steffan Jones, Jack Dixon.

Gweilch: Richard Fussell; Ross Jones, Tom Isaacs, Andrew Bishop, Eli Walker; Dan Biggar, Kahn Fotuali'i (capt); Ryan Bevington, Richard Hibbard, Adam Jones, Lloyd Peers, James King, Ryan Jones, Joe Bearman, Sam Lewis.

Eilyddion: Scott Baldwin, Duncan Jones, Cai Griffiths, Jonathan Thomas, Morgan Allen, Tom Habberfield, Matthew Morgan, Ashley Beck.