Llanc yn cael anafiadau difrifol ym mhentref Gwersyllt

  • 1 Ionawr 2013

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i lanc 17 oed gael anafiadau difrifol mewn damwain ffordd yn oriau mân y bore.

Bu mewn gwrthdrawiad â Volkswagen Polo gwyn wrth iddo groesi Ffordd yr Wyddgrug ym mhentref Gwersyllt, sir y Fflint am 00:37am ddydd Mawrth.

Aed ag ef i Ysbyty Maelor Wrecsam, lle mae'n cael ei drin am anafiadau i'w ben ac anafiadau eraill.

Dylai unrhyw dystion gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Daclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.