Shaun Edwards i ganolbwyntio ar Gymru

Shaun Edwards Image copyright Getty Images
Image caption Ymunodd Shaun Edwards gyda Chymru yn 2008

Mae Shaun Edwards, hyfforddwr amddiffyn Cymru, wedi rhoi'r gorau i'w waith gyda Gwyddelod Llundain er mwyn canolbwyntio ar ei waith gyda Chymru.

Roedd wedi cael eu rhyddhau am un diwrnod yr wythnos i weithio gyda'r tîm o Uwchgynghrair Lloegr, heblaw yn ystod y tymor rhyngwladol.

Fe fydd yn cydweithio gyda'r prif hyfforddwr, Warren Gatland, tan o leiaf cystadleuaeth Cwpan y Byd 2015.

Mae cyn chwaraewr rygbi 13 Prydain hefyd yn rhan o system Academi Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru, gan weithio gyda'r timoedd dan 20, 18 ac 16.

Fis diwethaf roedd nifer yn synnu wrth i Warren Gatland gadarnhau ei dîm hyfforddi ar gyfer taith y Llewod i Awstralia yn 2013.

Cafodd Rob Howley, Andy Farrell a Graham Rowntree eu henwi, gan olygu nad oedd lle i Shaun Edwards yn y tîm.

Straeon perthnasol