Teyrnged teulu wedi damwain angheuol ym mhentref Gwersyllt

  • 3 Ionawr 2013
Ian Gallagher
Roedd Ian Gallagher am fod yn filwr

Mae teulu dyn 17 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad ar ffordd yn Sir Wrecsam wedi talu teyrnged iddo.

Roedd Ian Gallagher yn fyfyriwr a fu farw ar Ddydd Calan ger pentref Gwersyllt.

Cafodd ei ddisgrifio fel "myfyriwr cariadus anhunanol".

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A541 Ffordd Yr Wyddgrug am 00.37am ar Ionawr 1 2013 rhwng cylchdro siop B&Q a phentref Gwersyllt.

Bu mewn gwrthdrawiad a char VW Polo.

Aed ag o i Ysbyty Maelor Wrecsam gydag anafiadau difrifol a bu farw yno yn ddiweddarach.

'Cefnogaeth'

Dywedodd y datganiad bod ei rieni, Alan ac Andrea Gallagher, ei frawd Phillip a'i chwaer Beth, a'i neiniau, teidiau, modrybedd, ewythrod a chefndryd wedi eu llethu gan gefnogaeth y gymuned leol a'i ffrindiau.

"Mae'r negeseuon a'r gefnogaeth yn y cymunedau yn Ninbych, Caerwys a Wrecsam wedi bod yn anhygoel," meddai ei dad.

"Rydym yn ddiolchgar iawn amdano."

Roedd Ian Gallagher yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dinbych ac yn adnabyddus yng Nghaerwys, lle'r oedd ei nain a'i daid yn byw.

Roedd yn gobeithio ymuno gyda'r fyddin ac wedi bod yn hyfforddi yn y coleg yn Wrecsam.

"I ni, roedd o eisoes yn filwr ac roeddem yn hynod falch ohono a'r hyn y cyflawnodd," ychwanegodd ei dad.

"Doedd o byth yn barod i beidio sefyll am yr hyn oedd yn iawn.

"Roedd yn caru ei deulu a'i ffrindiau a bob tro yn rhoi eraill o flaen ei hun."

Fe wnaeth ei rieni dalu teyrnged hefyd i'r rhai geisiodd helpu eu mab wedi'r digwyddiad.

"Roedd y gwasanaethau brys, y staff meddygol yn wych ac rydym yn ddiolchgar iawn am bopeth wnaethon nhw i Ian.

"Allwn ni ddim diolch digon."