Fletcher yn cael ei ddiswyddo

Carl Fletcher Image copyright Getty Images
Image caption Enillodd 36 cap dros ei wlad gan sgorio un gôl

Mae'r Cymro Carl Fletcher wedi cael ei ddiswyddo gan Glwb Pêl-droed Plymouth Argyle ar ôl 16 mis yn rheolwr y clwb yn yr ail adran.

Bu cyn chwaraewr canol cae Cymru, 32 oed, wrth y llyw ers Medi 2011 pan gafodd Peter Reid ei ddiswyddo.

Collodd Fletcher ei swydd ar ôl i Argyle golli 2-1 gartref yn erbyn Bristol Rovers ar Ddydd Calan, gan eu gadael yng ngwaelodion y tabl.

Dywedodd wrth y BBC: "Er fy mod i'n rheolwr ifanc, dwi'n gwybod os nad ydych yn ennill gemau, dydych chi ddim yn cadw eich swydd.

"Yn amlwg, mae'n siomedig bod pethau wedi dod i ben fel hyn, ond fel 'na mae pêl-droed.

"Dwi wedi dysgu cryn dipyn".

Fe ddechreuodd ei yrfa fel chwaraewr gyda Bournemouth yn 1997 cyn symud ymlaen i chwarae i West Ham United, Watford, Crystal Palace, Nottingham Forest a Plymouth.

Enillodd 36 cap dros ei wlad gan sgorio un gôl.