DVLA yn gwahardd saith

Pencadlys y DVLA yn Abertawe Image copyright PA
Image caption Mae'r asiantaeth, sy'n cyflogi dros 5,000 o bobl, yn cofrestru 36 miliwn o geir a 44 miliwn o yrwyr

Mae asiantaeth drwyddedu'r DVLA wedi gwahardd saith aelod staff o'u gwaith ar ôl honiadau eu bod wedi postio negeseuon 'amhriodol' ar wefan Facebook.

Mae ymchwiliad ar y gweill ym mhrif swyddfa'r asiantaeth yn Abertawe.

Ni ddefnyddiwyd cyfrifiaduron y DVLA ac ni wnaed y sylwadau yn ystod amser gwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Ni all staff gael mynediad i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol o gyfrifiaduron y DVLA."

Diswyddiadau

Fe ddiswyddodd yr asiantaeth dri o bobl yng Nghymru yn 2011 oherwydd defnydd amhriodol o wefannau cymdeithasol.

Cafodd un ei ddiswyddo am wneud sylwadau anaddas am y DVLA a'u cwsmeriaid ar Facebook.

Cafodd un arall ei ddiswyddo am wneud sylwadau anaddas am gydweithiwr a beirniadu gwasanaeth cwsmeriaid y DVLA ar wefannau Facebook a Twitter.

Diswyddwyd y llall am wneud sylwadau anaddas am gydweithiwr ar Facebook.

Yn ogystal cafodd un person rhybudd ysgrifenedig yn 2011 am wneud sylwadau anaddas am gydweithiwr ar Facebook.

£26 miliwn

Fe fydd 450 o swyddi'n cael eu symud i bencadlys yr asiantaeth yn Abertawe wrth i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â chynlluniau i gau 39 o swyddfeydd lleol.

Bydd y swyddfeydd yn cau rhwng Hydref a Rhagfyr 2013, gan effeithio ar 1,200 o swyddi.

A bydd y newidiadau yn golygu arbedion o £26 miliwn y flwyddyn.

Mae 'na dair swyddfa ranbarthol yng Nghymru a 76 o bobl yn cael eu cyflogi ym Mangor, Caerdydd a swyddfa lai yn Abertawe.

Ers dechrau'r 1970au mae'r DVLA wedi bod yn cadw cofnod o drwyddedau gyrwyr.

Mae'r asiantaeth, sy'n cyflogi dros 5,000 o bobl, yn cofrestru 36 miliwn o geir a 44 miliwn o yrwyr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.