Arestio dau ar ôl ymosodiad ym Mancot, Glannau Dyfrdwy

Heddlu'r Gogledd
Image caption Dylai unrhyw dystion gysylltu â'r heddlu ar 101

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i ymosodiad difrifol ar ddyn 21 oed Ddydd Calan am 12:30am.

Roedd yr ymosodiad yn Bank Road, Mancot, Glannau Dyfrdwy ac mae llanc 17 oed a dyn 18 oed, y ddau'n lleol, wedi cael eu harestio.

Mae'r dyn 21 oed mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Dylai unrhyw dystion gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Daclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.