Casglu barn am gynllun i gau swyddfeydd cofrestru yng Ngwynedd

Priodas
Image caption Mae'n bosib y bydd rhaid i drigolion Gwynedd deithio ymhellach i gofrestru genedigaethau, marwolaethau a phriodasau

Caiff y cyhoedd gyfle i leisio barn ar gynlluniau i gau nifer o swyddfeydd cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau yng Ngwynedd.

Fe fyddai cau rhai swyddfeydd yn arbed arian i'r sir.

Y bwriad yw cadw gwasanaethau ym Mangor, Dolgellau a Phwllheli, ac o bosib Caernarfon.

Yn 2011/12 cafodd 2,233 o enedigaethau, 1,473 o farwolaethau a 640 o briodasau neu bartneriaethau sifil eu cofrestru yn y sir.

Roedd 'na 482 o seremonïau priodasau sifil hefyd.

Mae Gwasanaeth Cofrestru Gwynedd yn cofnodi'r holl enedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil sy'n digwydd yn y sir.

Mae'n gyfrifol hefyd am gadw holl gofnodion hanesyddol genedigaethau, marwolaethau a phriodasau - dogfennau sy'n dyddio'n ôl i 1837, ac am wneud copiau o dystysgrifau a chofrestri.

Yn Neuadd y Dref Bangor y mae'r brif swyddfa ac mae staff yn teithio oddi yno i'r swyddfeydd eraill.

Mae'r amseroedd pryd mae'r swyddfeydd llai ar agor yn amrywio.

Y gyllideb ar gyfer y gwasanaeth yw £368,870 gyda 80% ohono yn cael ei wario ar staff.

Mae'r ddogfen ymgynghori ar y newidiadau yn nodi bod rhaid i farwolaeth gael ei chofnodi o fewn pum niwrnod ac felly mae pobl yn tueddu i fynychu'r apwyntiad cyntaf sydd ar gael ac mae hynny fel arfer yn y brif swyddfa.

Rhaid i enedigaethau gael eu cofrestru o fewn 42 niwrnod a does dim rhaid i'r plentyn fod yn bresennol.

Ergyd pellach i gefn gwlad

Yn ôl yr hysbysiad mae hyn yn gallu rhoi mwy o ryddid i rieni wneud trefniadau teithio i gofrestru'r plentyn.

Ond mae rhai yn gweld bod hyn yn ergyd bellach i wasanaethau yng nghefn gwlad.

"Dwi ddim yn meddwl bod y cyhoedd yn sylweddoli be fydd y newid yma yn ei olygu iddyn nhw," meddai Dilwyn Morgan, cynghorydd sir o'r Bala, tref fyddai'n colli'r sesiwn gofrestru wythnosol pe bai'r cynllun yn cael ei wireddu.

Dywedodd ei fod yn bwriadu trafod y mater ddydd Iau gyda Chyngor Tref y Bala.

"Mae hwn yn wasanaeth arall sy'n gadael y dref.

"Rydym eisoes wedi colli pethau fel Cyngor ar Bopeth a does 'na neb yn dod yma i gynnig pethau fel hyfforddiant."

Yn ôl Mr Morgan, mae 'na dros 2,000 yn byw yn y dref ac er mai hanner awr y byddai'n ei gymryd i deithio i Ddolgellau mewn car, fe fyddai'n cymryd mwy o amser i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus.

"Wedi dweud hynny, dwi'n deall bod rhaid i'r cyngor ganfod ffyrdd i arbed arian, ac felly mae'n sefyllfa anodd."

Mae manylion yr ymgynghoriad ar wefan Cyngor Gwynedd ac mae'n parhau tan Ionawr 27 2013.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.