Angladd milfeddyg yn Iwerddon

Catherine Gowing Image copyright North Wales Police
Image caption Roedd rhywun wedi gweld Catherine Gowing yn gadael archfarchnad ar Hydref 12

Cafodd angladd milfeddyg o Iwerddon a gafodd ei llofruddio yn Sir y Fflint ei gynnal yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Fe ddiflannodd Catherine Gowing, oedd yn byw yn New Brighton ger Yr Wyddgrug, ar Hydref 12.

Cafodd gweddillion Ms Gowing eu darganfod mewn dau safle, un yn Sir y Fflint a'r llall yn ardal Caer.

Mae Clive Sharp, 46 oed o Fethesda, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

'Ddim dweud ffarwél'

Roedd Ms Gowing yn wreiddiol o Clonlee ger Birr yn Swydd Offaly.

Cafodd yr angladd ei gynnal yn Eglwys Sant Flannan, Kinnitty, brynhawn Iau.

Dywedodd chwaer Ms Gowing, Emma, yn yr angladd fod calonnau aelodau'r teulu wedi eu torri.

"Wnaeth hi fyth dweud ffarwél," meddai.

"Doedd hi ddim yn hoffi dweud ffarwél, does dim ffarwelio, dim ond cariad."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.