Trywanu: Heddlu'n holi dyn

Mae'r heddlu'n holi dyn 43 oed yn Abertawe ar amheuaeth o ymgais i lofruddio.

Cafodd yr heddlu eu galw am 3.35am Ddydd Calan wedi i dri gael eu trywanu yn ardal Mayhill.

Mae dau ddyn 24 a 44 oed yn Ysbyty Treforys a chafodd menyw 39 oed ei rhyddhau o'r ysbyty.