Yr Elyrch oedd y clwb cyntaf o Gymru i chware yn yr Uwch Gynghrair
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Dathlu llwyddiant economaidd yr Elyrch

3 Ionawr 2013 Diweddarwyd 20:40 GMT

Mae'n ymddangos nad eu cefnogwyr yn unig sy'n dathlu dyrchafiad tîm pêl-droed Abertawe i'r Uwch Gynghrair.

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd mi oedd tymor cynta'r Elyrch yn yr Uwch Gynghrair werth £58 miliwn i'r economi leol.

Cafodd 125 o swyddi eu creu neu'u diogelu gan y clwb ei hun.

Cafodd bron i 300 o swyddi eraill yn dod wrth i dafarnau, bwytai a gwestai ddenu rhagor o gwsmeriaid.

Adroddiad Ellis Roberts.