Gêm gyfartal rhwng timau Cymru yn y Blue Square

Wrecsam a Chasnewydd Image copyright bbc

Casnewydd 1-1 Wrecsam

Roedd pwynt yn ddigon i Wrecsam godi i frig Uwchgynghrair Blue Square wrth wynebu Casnewydd ar Rodney Parade nos Wener.

Er bod 'na bellter daearyddol rhwng y ddau dîm dyma gêm ddarbi Cymru o ran y gynghrair.

Fe allai Casnewydd fod wedi codi uwchben Grimsby petai tîm Justin Edinburgh wedi ennill.

Ond roedd hi'n bwynt gwerthfawr i Wrecsam wedi i'r ddau dîm gael cyfloedd di-ri yn yr ail hanner.

Cafodd Casnewydd gyfle cynnar wedi 26 munud pan fethodd Andy Sandell gic o'r smotyn.

Roedd hi'n ergyd wael gafodd ei harbed gan Joslain Mayebi.

Gôl

Mae Casnewydd wedi colli sawl cic o'r smotyn y tymor yma.

Wedi 34 munud fe roddodd Danny Wright yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl i Gasnewydd gael cic gornel.

Mewn un symudiad cafodd Joe Clarke y bêl wrth i Wright ergydio heibio Alan Julian.

Rheolwr Wrecsam, Andy Morell, oedd yn haeddu bod yn fodlon gyda'r hanner cyntaf wrth i'r ymwelwyr reoli'r hanner.

Ond fe ddaeth tîm Edinburgh yn ôl yn yr ail hanner ac ergydion di-ri gan y ddau dîm.

Deg munud i fewn i'r ail hanner fe wnaeth y bêl wyro oddi ar amddiffynnwr Wrecsam a Chasnewydd yn manteisio gyda gôl gan Max Porter o gornel y blwch.

Postyn

Yn ystod y chwarter awr ola roedd Casnewydd yn edrych y tebyca i fanteisio a chael buddugoliaeth wedi iddyn nhw wthio Wrecsam yn ddyfnach.

Gyda gôl Casnewydd yn wag fe wnaeth ergyd Adrian Cieslewicz daro'r postyn i atal Wrecsam rhag cael buddugoliaeth.

Cafwyd bron i chwe munud o amser ychwanegol ar ddiwedd y 90 swyddogol, ond yr un o'r ddau dîm yn llwyddo i fanteisio.

Gêm llawn cyffro, llawn cyfloedd, gêm gyfartal a'r ddau reolwr yn ddigon hapus gyda phwnt, sydd o fwy o werth i Wrecsam nos Wener.

Roedd 'na dros 3,000 yn Rodney Parade.

Un tîm yn unig sy'n ennill dyrchafiad yn awtomatig ac felly ma'r safle ar y brig yn holl bwysig ac fe fydd y ddau dîm yn dal i frwydro am hwnnw am weddill y tymor.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.WRECSAM 26 24 47
2.Grimsby 25 24 47
3. CASNEWYDD 25 14 46
4. Forest Green 24 16 41
5. Luton 23 5 39

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.