George North yn cael ei anafu wrth i Ulster guro'r Scarlets

George North yn y gêm yn erbyn Ulster Image copyright Press Eye
Image caption Cafodd George North ei daro yn ei ben gan ben-glin un o'i wrthwynebwyr

Ulster 47-15 Scarlets

Mae 'na amheuaeth a fydd George North ar gael ar gyfer gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ymhen y mis.

Cafodd asgellwr Cymru a'r Scarlets ei gludo oddi ar y cae yn ystod buddugoliaeth Ulster yn erbyn y Scarlets o 47-15 yn Ravenhill nos Wener.

Cafodd North ergyd i'w ben mewn gwrthdrawiad damweiniol.

Mae Cymru yn wynebu Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2.

Fe wnaeth Ulster, sydd ar frig tabl y Pro12 sgorio pum cais yn yr ail hanner i chwalu'r ymwelwyr.

Roedden nhw ar y blaen o 9-3 ar yr hanner arôl tair cic gosb i Ruan Pienaar.

Robbie Diack, Nick Williams, Andrew Trimble a Neil McComb gafodd geisiau'r tîm cartref yn ogystal â chais cosb.

Llwyddodd y Scarlets i gael dau gais wedi'r hanner drwy Josh Turnbull a Scott Williams yn yr amser a ganiatawyd am anafiadau.

Ond doedd y cais cysur yn fawr o hwb i'r Scarlets.

Mae'r canlyniad yn gweld Ulster yn dal eu gafael ar y brig a'r Scarlets yn syrthio i'r pumed safle.

CANLYNIADAU GEMAU'R PRO 12 - TYMOR 2012/12
CED CON DRE GLA GLE GWE LEI MUN SCA TRE ULS ZEB
Caeredin 12/13/14 Ebr. 3/4/5 Mai 28/29/30 Rhag. 15/16/17 Chwe. 23 - 13 16-31 18-23 28-29 22-27 22/23/24 Maw. 41-10
Connacht 23 - 24 4/5/6 Ion. 3/4/5 Mai 9-13 15/16/17 Chwe. 34-6 12-16 11-24 18 - 3 19/20/21 Ebr. 1/2/3 Maw.
DREIGIAU 32-12 14 - 3 15/16/17 Chwe. 5-16 21/22/23 Rhag. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 19-46 37-6
Glasgow 23 - 14 27-17 37 - 6 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 0 - 6 29/30/31 Maw. 13-18 41-7 22/23/24 Chwe. 22-19
GLEISION 19-21 22/23/24 Chwe. 12-10 3-18 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 18 - 24 19/20/21 Ebr. 34-18 19-48 12/13/14 Ebr.
GWEILCH 22/23/24 Chwe. 26-9 22/23/24 Maw. 10-28 33 - 12 19 - 10 30-15 32-3 12/13/14 Ebr. 13-16 16-15
Leinster 22-16 28/29/30 Rhag. 45-25 22/23/24 Maw. 59 - 22 3/4/5 Mai 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Chwe. 15/16/17 Chwe. 29/30/31 Maw. 37 - 7
Munster 8/9/10 Chwe. 22/23/24 Maw. 33-13 31 - 3 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 12/13/14 Ebr. 6 - 13 19-6 28/29/30 Rhag. 26/27/28 Hyd.
SCARLETS 1/2/3 Maw. 8/9/10 Chwe. 24-13 12/13/14 Ebr. 6 - 9 16-23 45-20 15/16/17 Chwe. 3/4/5 Mai 12 - 19 22 - 13
Treviso 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 32 - 13 13-24 22/23/24 Maw. 12-6 18-19 22/23/24 Chwe. 22-20 15 - 16 28/29/30 Rhag.
Ulster 45 - 20 25-0 12/13/14 Ebr. 18-10 3/4/5 Mai 8/9/10 Chwe. 27 - 19 20-19 47-15 1/2/3 Maw. 15/16/17 Chwe.
Zebre 29/30/31 Maw. 17-30 22/23/24 Chwe. 8/9/10 Chwe. 7 - 14 16-34 19/20/21 Ebr. 3/4/5 Mai 22/23/24 Maw. 3-10 25 - 27

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.