Dod o hyd i gorff milwr

Robert Griffiths
Image caption Roedd Robert Griffiths yn aelod o'r Cafalri Cymreig

Mae milwr 24 oed oroesodd ffrwydriad yn Afghanistan wedi cael ei ddarganfod yn crogi.

Roedd Robert Griffiths yn gyrru tanc ysgafn pan ffrwydrodd y Taliban ddyfais wrth ymyl y ffordd, ond ni chafodd ei anafu.

Dychwelodd ei gatrawd o dalaith Helmand yn Ebrill 2012 a bu'n gwasanaethu wedi hynny yn yr Almaen.

Cafodd corff Robert Griffiths ei ddarganfod yn ei gartref yn Llandeilo Ferwallt, Penrhyn Gŵyr, ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Fyddin: "Rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau ar yr adeg hon."

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio, nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, a bod teulu Robert Griffiths wedi cael gwybod.