Ymchwilio i farwoaleth babi pedwar mis oed o Bontypridd

Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl "marwolaeth sydyn ac anesboniadwy" merch fach bedwar mis oed yn ne Cymru.

Bu farw'r ferch fach ar Ragfyr 31 yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd ei chludo yno'r noson flaenorol o'i chartref ym Mhontypridd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn a dynes yn helpu swyddogion gydag ymholiadau.

Yn ôl yr heddlu does neb wedi eu harestio.

Fe ddywedodd llefarydd mai dyddiau cynnar yr ymchwiliad ydi hi.

Roedd y babi wedi mynd yn wreiddiol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant am 11pm nos Sul cyn cael ei symud i Gaerdydd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.