Abertawe 2-2 Arsenal

Danny Graham Image copyright Getty Images
Image caption Danny Graham yn dathlu ail gol Abertawe

Bydd Abertawe yn teithio i Brighton ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr pe bai nhw'n gallu curo Arsenal mewn gêm ailchwarae.

Gorffennodd y gêm ddydd Sul yn gyfartal yn Stadiwm y Liberty.

Roedd chwarter olaf y gêm yn llawn cyffro gyda'r ddau dîm ar wahanol adegau yn meddwl eu bod wedi cipio'r fuddugoliaeth.

Gyda naw munud yn weddill, yr Elyrch oedd ar y blaen.

Daeth Michu i'r cae fel eilydd yn yr ail hanner ac ychydig dros funud yn ddiweddarach roedd yr Elyrch ar y blaen o un gôl i ddim.

Aeth y bêl i Michu o ben Nathan Dyer. Fe wnaeth yr ymosodwr godi'r bêl dros ben Per Mertesacker, ac yna ar ôl un cyffyrddiad arall fe ergydiodd i gornel y rhwyd.

Pum munud cyn hynny roedd Arsenal yn teimlo eu bod yn llawn haeddu cic o'r smotyn wrth iddi ymddangos fod Ramsey wedi ei lorio gan Tiendalli.

Fe ddaeth cyfleoedd eto i Arsenal ond roedd Walcott yn wastraffus o 15 llath.

Gydag Arsenal yn pwyso fe ildiodd amddiffyn Abertawe gyda naw munud yn weddill.

Daeth yr ymwelwyr yn gyfartal drwy Lukas Podolski.

Yna o fewn dwy funud roedd hi'n 2-1 i Arsenal, foli wych gan Kieran Gibbs.

Danny Graham oedd achubwr yr Elyrch.

Daeth y bel i Graham ar ôl cyffyrddiad o gic cornel, fe reolodd y bêl o fewn y blwch cosbi ac ergydio i gefn y rhwyd.

Roedd y diweddglo yn un hynod brysur o gymharu â hanner cyntaf digon tawel.

Abertawe oedd y tîm gorau cyn yr egwyl.

Daeth eu cyfle gorau i fynd ar y blaen drwy Kyle Bartley - ei beniad yn taro yn erbyn y croesfar.

Abertawe: Vorm, Bartley, Chico, Tiendalli, Davies, Britton, Dyer, Routledge, De Guzman, Ki Sung-Yeung, Graham.

Eilyddion: Tremmel, Monk, Rangel, Michu, Pablo, Agustien, Shechter.

Arsenal: Szczesny, Sagna, Mertesacker, Koscielny, Gibbs, Arteta, Wilshere, Walcott, Ramsey, Cazorla, Giroud

Eilyddion: Martinez, Vermaelen, Santos, Rosicky, Oxlade-Chamberlain, Coquelin, Podolski