Dean Saunders yw rheolwr newydd Wolves

Dean Saunders Image copyright Getty Images
Image caption Dechreuodd Saunders ei yrfa fel rheolwr gyda Wrecsam cyn ymuno â Doncaster

Mae Dean Saunders wedi ei benodi yn rheolwr newydd clwb pêl-droed Wolverhampton Wanderers.

Cadarnhaodd y clwb y penodiad wedi i'r ddwy ochr ddod i gytundeb dros y penwythnos.

Roedd Wolves wedi diswyddo eu rheolwr blaenorol, Stale Solbakken, ar ôl chwe mis yn dilyn colled y tîm yng Nghwpan yr FA yn erbyn Luton.

Saunders yw'r pedwerydd rheolwr ym Molineux mewn llai na blwyddyn, wedi i Mick McCarthy adael fis Chwefror y llynedd, a chyfnod byr Terry Connor wrth y llyw.

Stale Solbakken, 44, o Norwy ddaeth wedi Connor ym mis Gorffennaf, ond ni chafodd lwyddiant, gyda'r clwb yn parhau yn y 18fed safle yn y Bencampwriaeth.

Cafodd ei ddiswyddo gan fwrdd Molineux oriau wedi'r golled syfrdanol yn erbyn Luton ddydd Sadwrn.

Buddugoliaeth

Dywedodd datganiad ar wefan swyddogol Wolves: "Rydym yn hapus iawn i gadarnhau mai Dean Saunders fydd rheolwr newydd y clwb."

Ychwanegodd y datganiad fod Wolves wedi cytuno ar delerau iawndal â Doncaster Rovers fydd yn galluogi Saunders, sy'n 48 oed, i gymryd yr awennau.

Dechreuodd Saunders, cyn ymosodwr gyda Lerpwl ac Aston Villa, ei yrfa fel rheolwr gyda Wrecsam, cyn ymuno â Doncaster ym mis Medi 2011.

Methodd â sicrhau cwymp Rovers i Adran Un y tymor diwetha' ond mae'r tîm bellach yn ail yn y tabl, ac wedi dod yn gyfartal ar bwyntiau gyda'r arweinwyr Tranmere wedi buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Colchester ddydd Sadwrn.

Meddai prif weithredwr Doncaster, Gavin Baldwin: "Gallwn gadarnhau fod Dean Saunders wedi cytuno i ddod yn rheolwr ym Molineux.

"Rydym wedi cytuno ar delerau da i Doncaster Rovers.

"Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau i geisio dod o hyd i olynydd i Dean a pharau i geisio am ddyrchafiad yn ôl i'r Bencampwriaeth.

"Rwyf wedi siarad gyda Dean i ddiolch iddo am y gwaith gwych mae wedi'i wneud yma yn Doncaster a dymuno'n dda iddo at y dyfodol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.