Cwest: Capten Stephen Healey oedd 'un o'r goreuon'

Capten Stephen James Healey Image copyright MOD
Image caption Chwaraeodd bêl-droed i Abertawe cyn ymuno â'r fyddin

Mae cwest yng Nghaerdydd wedi clywed bod milwr catrawd y Cymry Brenhinol a gafodd ei ladd yn Afghanistan yn "un o oreuon ei genhedlaeth".

Roedd Capten Stephen James Healey, 29 oed, ar batrôl yn ardal Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand pan ffrwydrodd dyfais o dan gerbyd.

Cafodd y cerbyd ei daflu i'r awyr ym mis Mai 2012 a bu farw Capten Healey, yn wreiddiol o Gaerdydd, mewn hofrennydd Chinook oedd yn ei gludo i ysbyty milwrol.

Cyn graddio mewn Gwyddorau Chwaraeon o Brifysgol Abertawe roedd yn un o brentisiaid Clwb Pêl-droed Abertawe.

Goroesi

Disgwylir i'r cwest bara pedwar diwrnod.

Clywodd y cwest fod Capten Healey wedi goroesi ffrwydrad oherwydd dyfais debyg yn Nhalaith Helmand ddwy flynedd ynghynt.

Dywedodd ei bennaeth milwrol, Uwchgapten Charles Carver, wrth y cwest: "O ran ei broffesiwn roedd Capten Healey yn un o oreuon ei genhedlaeth.

"Roedd hefyd yn gymdeithasgar ac yn gallu cyd-dynnu â phawb."

Clywodd y cwest fod Capten Healey yn gwarchod ffordd yng ngogledd ardal Nahr-e Saraj.

Roedd ef a'i blatŵn ar eu ffordd i arolygu pwynt croesi ar gamlas.

'Yn yr awyr'

Dywedodd gyrrwr y cerbyd, Is-gorporal Ian Lane: "Roedden ni'n teithio'n araf ar lwybr yn chwilio am ddyfeisiadau ffrwydrol.

"Yr eiliad nesaf sylweddolais fy mod i yn yr awyr."

Ychwanegodd nad oedd wedi sylweddoli beth oedd wedi digwydd am eiliadau.

"Roedd Capten Healey wedi ei anafu ac fe ddechreuon ni roi cymorth cyntaf iddo ... ond roeddwn i'n gallu gweld nad oedd yn argoeli'n dda iddo."

Dywedodd Is-gorporal Brian King wrth y cwest mai ef oedd y cyntaf i roi cymorth i Capten Healey.

"Doedd e ddim yn ymateb. Wnes i geisio siarad ag e ond doedd e ddim yn ymateb o gwbl.

'Ddim yn anadlu'

"Roedd ei ên wedi ei thorri a doedd e ddim yn anadlu. Doedd ei galon ddim yn curo."

Clywodd y cwest fod pum dyfais ffrwydrol arall ar y llwybr.

Roedd wedi ymuno â'r fyddin yn 2007 ac fe gafodd ei gysylltu gyda Bataliwn Cyntaf y Cymry Brenhinol yn 2008.

Cyfeiriwyd at ei ddewrder a'i arweinyddiaeth ar ei daith gyntaf i Afghanistan yn 2009.

Mae'n gadael rhieni John a Kerry, ei frawd Simon a chariad Thea.

Mae'r cwest yn parhau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.