Trywanu yng Nghaerdydd: Rhyddhau ar fechnïaeth

Yr heddlu
Image caption Yr heddlu yn cynnal ymchwiliad yn ardal Glan yr Afon

Mae dau o bobl a gafodd eu harestio ar ôl i ddyn 28 oed gael ei drywanu mewn tŷ yng Nghaerdydd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd yr heddlu, gan gynnwys plismyn arfog, eu hanfon i Stryd Clare yn ardal Glan yr Afon am 11.34pm nos Sadwrn.

Fe gafodd y dyn 28 oed ei anafu ond dyw ei fywyd ddim mewn peryg.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.