Gwaith dur: Ymchwiliad i farwolaeth cath

Gwaith Dur Tata Image copyright PA
Image caption Mae'r dyn yn gweithio ym Mhort Talbot

Mae gweithiwr wedi ei wahardd o'i swydd yn Tata ym Mhort Talbot tra bod ymchwiliad i honiad fod cath wedi ei thaflu i mewn i gynhwysydd sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dur tawdd.

Mae rheolwyr yn edrych ar luniau camera cylch cyfyng i weld a gafodd y digwyddiad ei recordio.

Daethpwyd o hyd i'r gath yn farw.

Megis dechrau mae'r ymchwiliad ond deellir nad oes honiad i'r gath gael ei thaflu i mewn i fetel tawdd.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata fod y cwmni'n trin yr honiad fel un difrifol iawn.