ASau o blaid cyfyngu cynnydd codiad blynyddol budd-daliadau

George Osborne Image copyright PA
Image caption Cyhoeddodd y Canghellor George Osborne y newidiadau ym mis Rhagfyr

Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid mesur fydd yn cyfyngu'r cynnydd mewn budd-daliadau i 1% dros y tair blynedd nesaf.

Roedd 324 o blaid a 268 yn erbyn .

Yn hanesyddol, mae budd-daliadau wedi eu codi yn unol â chyfraddau chwyddiant ac roedd yna gynnydd o dros 5% yn 2012-13.

Roedd Llafur yn gwrthwynebu'r newid, yn dadlau y byddai'n golygu cwtogi gwerth budd-daliadau mewn termau real.

Dywedodd y glymblaid fod y cynnydd mewn cyflogau sector gyhoeddus wedi ei gyfyngu i 1% ac na ddylai'r codiadau mewn budd-daliadau fod yn uwch na chynnydd cyflogau.

Tra bod gweinidogion yn mynnu y dylai rheini sy'n cael budd-daliadau wynebu toriadau yn ystod cyfnod economaidd anodd dywedodd Llafur y byddai'r newid yn effeithio ar y bobl dlotaf.

Prynu pleidleisiau

Honnodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Ian Duncan Smith, fod Llafur wedi prynu pleidleisiau yn y gorffennol drwy addo taliadau drwy'r system drethi i bobol ar gyflogau uchel.

"Mae Llafur yn gyson wedi cyhoeddi codiadau nawdd cymdeithasol i gydfynd â dyddiad etholiad.

"Maen nhw'n credu mai'r modd i helpu pobol yw trwy gaethiwo mwy a mwy o bobl, eu rhwydo mewn dibyniaeth ar nawdd cymdeithasol."

Dywedodd David Miliband, y cyn Ysgrifennydd Cartref, mai ystyriaethau gwleidyddol oedd tu cefn i gynllun y llywodraeth.

"Y bwgan mawr yw diweithdra," meddai, "yn hytrach na'r diwaith eu hunain."

Mae'r cynllun yn cynnwys y lwfans ceisio gwaith, y lwfans cefnogaeth a chymorth, cymhorthdal incwm, elfennau o fudd-dal tai, lwfans mamolaeth, tal mamolaeth, tal tadolaeth, ac elfennau o gredydau treth.

Nid yw'n cynnwys budd-daliadau anabledd, pensiwn y wladwriaeth na chredyd pensiwn.

£1.9 biliwn

Amcangyfrifir y byddai'r cynllun yn arbed £1.9 biliwn y flwyddyn erbyn 2016.

Roedd ymgyrchwyr wedi dadlau y byddai'r newid yn golygu bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd.

Yn ôl Chris Johns, pennaeth Oxfam Cymru, mae lefel budd-daliadau ar hyn o bryd yn is o'i gymharu ag incwm cyfartalog nac ar unrhyw adeg ers yr Ail Ryfel Byd, ac os yw budd-daliadau yn codi 1% tra bod cost byw yn codi 4%, bydd pobl yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau.

Yn siarad ar y Post Cyntaf, gofynnodd "Ydy e'n deg i ddisgwyl i filoedd ar filoedd o bobl i droi at fanciau bwyd, i anfon eu plant i'r ysgol heb frecwast, i gael tai oer?"

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion y Trysorlys, Jonathan Edwards, y byddai'r cynllun yn yn cael effaith anghyfartal ar y cenhedloedd a'r rhanbarthau y tu allan i Dde-ddwyrain Lloegr.

"Bydd Cymru'n enwedig yn diodde' gan fod canran lawer uwch o'n poblogaeth yn derbyn credydau treth a/neu fudd-daliadau.

"Felly mae'n anochel y bydd y toriad yn y taliadau yn cael effaith fawr ar faint o arian fydd yn cael ei wario yng Nghymru ac yn dangos yn glir natur wrth-gynhyrchiol arbrawf economaidd y glymblaid."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.