Eos a'r BBC: Y ddwy ochr "yn nes"

Logo Eos

Dywed Eos fod y ddwy ochr "yn nes" at ei gilydd wedi trafodaethau ddydd Mawrth i geisio datrys yr anghydfod ynghylch hawliau darlledu caneuon Cymraeg ar Radio Cymru.

Mae Eos, sy'n cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg am i'r BBC wella'r cynnig ynglŷn â thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.

Dydi Radio Cymru ddim yn cael darlledu dros 30,000 o ganeuon poblogaidd Cymraeg ers Ionawr 1.

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf, ar y BBC dywedodd Dafydd Roberts: "'Da ni yn nes, yn bendant, gawson ni drafodaethau da ddoe, cynhyrchiol iawn, rhaid i mi ddweud, nifer o elfennau ychwanegol yn cael eu trafod, elfennau fydd o fudd i'r diwydiant cerdd yn y dyfodol ac yn y blaen, a 'da ni yn teimlo ein bod ni'n llawer nes.

"Mae Eos wedi dod lawr yn sylweddol yn eu cynnig diwethaf, a phe tai'r BBC yn dod i fyny punt am bunt am beth mae Eos yn dod lawr, yna mi fydd yna gytundeb.

Tasan nhw'n cyfaddawdu union yr un faint ac mae Eos, fe fyddai yna gytundeb."

Yn y cyfamser, mae'r AC Plaid Cymru Simon Thomas wedi galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i ymyrryd yn yr anghydfod.

Dywedodd Mr Thomas: "Dwi'n meddwl bod y sefyllfa'n dechrau troi yn dipyn bach o embaras a dweud y gwir, bod yna fethiant hyd yma i ddod i gytundeb rhwng y ddwy ochr... ac mae'n amlwg bod yna bobl annibynnol megis Ymddiriedolaeth y BBC, megis Llywodraeth Cymru sydd yn gallu rhoi pwysau... i frysio at gytundeb...

Pwysleisiodd Mr Thomas nad oedd am weld gwleidyddion yn negodi nac yn dweud beth yw tal teg.

"Be' fydden ni am i'r Llywodraeth neud yn y lle cynta', yw cysylltu ag Ymddiriedolaeth y BBC, achos nhw yw ceidwad llais y cyhoedd yn y broses yma, mynegi pryder a siom bod yna ddim cytundeb eto, a gweld beth all yr Ymddiriedolaeth ei neud.

"Mae eisiau tanlinellu'r sefyllfa newydd sydd gyda ni o ran darlledu Cymraeg... sydd heb ei ddatganoli, dwi'n derbyn hynny, ond wedi dweud hynny, gyda S4C hefyd yn mynd tuag at y BBC, mae yna bwysau ychwanegol dwi'n meddwl ar y BBC yn gyffredinol i ystyried y gwasanaeth yn Gymraeg... i fod yn wasanaeth cenedlaethol tu fewn y cyd-destun Prydeinig...

"Licen ni awgrymu na fydden ni wedi gweld hwn yn llusgo ymlaen wythnosau pe byddai hyn yn digwydd i wasanaeth sydd yn deillio o Lundain.

"Ac felly mae rhywun yn rhywle heb dynnu bys mas i setlo'r mater yn ddigon cloi, a fydden i'n meddwl ei bod hi yn bryd felly bod gwleidyddion... o leiaf yn mynegi eu pryder ac yn mynegi eu siom bod yna ddim cytundeb hyd yma."

Ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog fod Carwyn Jones am weld y sefyllfa yn cael ei datrys yn fuan.

Rhybuddiodd cyn lywodraethwr BBC Cymru, Syr Roger Jones: "Alla i ddim gweld Eos yn llwyddo yn y cais yma... Mae arian yn brin."

"Os byddai Eos yn cael triniaeth arbennig, dwi'n meddwl y byddai cenhedloedd eraill Prydain yn dweud bod hyn yn annheg, a base hyn yn fwy na phroblem Gymraeg i'r Ymddiriedolaeth.

"Y BBC sydd rŵan yn gyfrifol am S4C. Base'n llawer iawn gwell o ran yr iaith i ni frwydro i gael neud yn siŵr bod digon o arian yn dod fewn i S4C."

Fe wnaeth dros 300 o artistiaid drosglwyddo eu hawliau darlledu o'r PRS (Performing Rights Society) i Eos ddiwedd 2012 oherwydd eu bod yn anhapus gyda'r breindaliadau oedd yn cael eu cynnig.

Gwadodd Dafydd Roberts fod Eos yn gofyn am ffafriaeth, a dywedodd nad oedden nhw hyd yn oed yn gofyn am gydraddoldeb gyda gorsaf Asian Network.

"Y broblem yn fan yma... yw bod y BBC yn llyffetheirio nhw eu hunan yn y trafodaethau yma... achos 'da ni yn bryderus eu bod nhw'n trio gwarchod y cytundeb sydd ganddyn nhw efo PRS - y taliad blanced"...

"Dyna pam mae Syr Roger Jones yn son hwyrach y byddai cenedl arall fel yr Alban yn dod fewn, wel pam ddim, beth sy'n bod ar hynny, oni ddylie fo fod yn farchnad rydd? Mae o wedi cael ei fficsio, a phrisiau wedi eu cadw lawr yn rhy hir oherwydd y flanced yma."