Arestio ar amheuaeth o geisio cipio

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddigwyddiadau amheus ym Mro Morgannwg wedi arestio dyn 27 oed o'r Barri ar amheuaeth o geisio cipio.

Roedd adroddiadau fod gyrrwr Ford Fiesta gwyrdd yn ymddwyn yn amheus yn Y Barri a Phenarth.

Cafodd ei arestio wedi i aelod o'r cyhoedd weld apêl yr heddlu ar wefan gymdeithasol Facebook.

Mae'r troseddau honedig yn ymwneud â thair menyw yn eu hugeiniau a merch 14 oed.

Roedd y digwyddiad cyntaf yn Heol y Rheithordy ym Mhenarth ar Ionawr 6, yn ymwneud â'r ferch 14 oed.

Wedyn roedd yr un nesa' am 9.15am y diwrnod canlynol yn Heol Redlands, Penarth, ac yn ymwneud â menyw 25 oed.

Yna am 7.30pm roedd digwyddiad yn ymwneud â menyw 21 oed yn Heol Winston yn Y Barri cyn un am 9.15pm yn ymwneud â menyw 22 oed yn Fern Drive, Y Barri.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n chwilio am unrhyw un arall.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.