Dod o hyd i glaf

George Fox Image copyright Other
Image caption George Fox

Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi dod o hyd i glaf oedd wedi bod ar goll o ysbyty ar gyfer pobl â salwch meddwl.

Fe gofnodwyd absenoldeb George Fox, 37 oed, o Ysbyty Llys Llanarth yng Ngoetre ger Y Fenni, ddydd Iau yr wythnos diwethaf.

Roedd yr heddlu wedi gwneud apêl ar aelodau o'r cyhoedd i gysylltu â nhw pe bai nhw'n gweld Mr Fox.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn diolch i'r cyhoedd am eu cymorth a bod y claf bellach yn ôl yn yr ysbyty.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.