'Profi'r arallfydol' mewn amgueddfa

  • 12 Ionawr 2013
Y sêr
Amgueddfa: 'Mae modd serydda drwy'r oesoedd'

Oherwydd cyfres Stargazing LIVE ar BBC 2 mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal diwrnod o weithgareddau, sgyrsiau ac arddangosiadau arbennig.

Rhan yw hon o ddigwyddiadau Stargazing LIVE sy'n dangos delweddau delesgopau mwyaf pwerus y ddaear.

Mae teuluoedd yn cael cyfle i weld casgliad o wibfeini a defnyddio'r efelychwr trawiad i weld effaith gwibfaen ar dref.

Yr Athro Mike Edmunds sy'n sgyrsio am mae telesgopau mwyaf y byd yn gweithio a Dr Chris North sy'n sôn am ddarganfyddiadau newydd arsyllfa ofod Herschel.

Mae modd serydda drwy'r oesoedd a chael syniad beth oedd profiad edrych drwy delesgopau Galileo a Newton.

'Amrywiaeth'

Dywedodd Dr Lucy M E McCobb, Curadur Palaeontoleg Amgueddfa Cymru: "Mae gennym amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau diddorol yn rhad ac am ddim ar gyfer seryddwyr.

"Bydd digon o wyddonwyr amgueddfa i ateb cwestiynau a gobeithio y bydd y lle'n llawn ymwelwyr ar gyfer diwrnod difyr o syllu ar y sêr."

Mae cyfle i ddysgu sut y gall ysgolion ddefnyddio telesgopau robotig enfawr neu ddilyn taith gwis drwy oriel Esblygiad Cymru cyn dod o hyd i garreg leuad a gasglwyd gan ofodwyr Apollo 12.