Ymchwilio ar ôl ymosodiad difrifol ar ddyn yn Aberteifi

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio wedi ymosodiad difrifol ar ddyn yn Aberteifi.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn eiddo yn Stryd y Castell yn Aberteifi ddydd Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 10.45pm.

Mae dau berson wedi cael eu harestio ac yn cynorthwyo'r heddlu gydag ymholiadau.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.