S4C
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Adnodd newydd i'r cyfryngau

11 Ionawr 2013 Diweddarwyd 08:44 GMT

Bydd canolfan newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru yn cael ei hagor yn swyddogol ddydd Gwener.

Mae nifer o unedau wedi eu sefydlu yn adeilad S4C ym Mharc Ty Glas Llanishen, mewn gofod sydd ddim yn cael ei ddefnyddio gan S4C ei hun bellach.

Stephen Hughes aeth i weld y ganolfan newydd yng nghwmni Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Phartneriaethau S4C.