Achos llofruddio Aberaman: Dyn 18 oed yn y ddalfa

Mae dyn lleol 18 oed gafodd ei gyhuddo o lofruddio dyn 45 oed yn y ddalfa.

Bu farw Andrew David Male fore Mercher.

Ymddangosodd Corey Liam Thomas gerbron Ynadon Merthyr fore Gwener.

Roedd rhieni Mr Male wedi dweud: "Mae'r hyn ddigwyddodd i Andrew wedi ein tristáu a'n hysgwyd ni.

"Roedd yn fab llawn gofal ac ystyriol a bydd colled ar ei ôl."

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i dŷ yn Heol Caerdydd, Aberaman, am 3.20am fore Mercher.

Cyhoeddodd parafeddygon ei fod wedi marw yn y fan a'r lle.