Asiantaeth: 'Effaith fawr' slyri ger Hendy-gwyn ar Daf

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud bod slyri mewn nant yn "effeithio'n fawr ar ansawdd dŵr a physgod" a'u bod yn ceisio darganfod ffynhonnell y llygredd.

Dywedodd swyddogion eu bod yn asesu'r difrod wedi i aelod o'r cyhoedd dynnu eu sylw at slyri yn Nant Cwmfelinboeth i'r gogledd o Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gâr.

"Dylai pobl leol wybod y bydd y nant yn debygol o aros yn ddi-liw am sawl diwrnod ac efallai y bydd ewyn ar y dŵr wrth i'r slyri chwalu," meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth.

"Mae hwn yn un o nifer o achosion sydd wedi bod yn yr ardal yn ddiweddar ac fe fyddwn yn cymryd camau priodol cyn gynted ag y byddwn ni'n darganfod pwy yw'r troseddwr."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.