Gynnau llonyddu: Arestio tad a mab o Gymru yn Heathrow

Swyddogion y Llu Ffiniau Image copyright PA
Image caption Cafodd y ddau eu harestio nos Iau

Mae tad a mab o Sir Gaerffili wedi eu harestio am fod naw gwn llonyddu yn eu bagiau ym Maes Awyr Heathrow.

Cafodd y tad 69 oed a'r mab 30 oed o'r Gelligaer eu harestio wedi iddyn nhw gamu o awyren o Delhi yn India nos Iau.

Mae'r Llu Ffiniau'n holi'r ddau.

Dywedodd Marc Owen, Cyfarwyddwr Llu Ffiniau Heathrow, fod gynnau llonyddu wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf Ddrylliau a'u bod yn "beryglus iawn yn y dwylo anghywir".

Roedd taith y dynion wedi dechrau yn Bangkok yng Ngwlad Thai.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.